Introducing CF-CLiC
Astudiaeth ymchwil am iechyd y boblogaeth yw CF-CLiC. Mae’n cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd a’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau iechyd cludwyr ffibrosis systig (CF). Cefndir Mae ymchwil ddiweddar (1) wedi awgrymu y gallai cludwyr CF fod yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau penodol sy'n gysylltiedig â CF, fel llid y pancreas, na'r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwilio i gludwyr CF yn dasg anodd, gan nad oes rhaglen sgrinio genedlaethol i'w hadnabod. Maent yn aml yn cael diagnosis eu bod yn gludwyr drwy brofion sgrinio rhaeadru; pan fydd aelodau o deulu plentyn sydd â CF yn cael profion genetig. Mae pob unigolyn sy’n cael ei brofi am CF yng Nghymru yn cael ei brofi gan Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS) sy’n cadw rhestr o’r unigolion hyn a chanlyniad eu prawf. Y cofnodion hyn yw'r dull mwyaf sicr o ddiffinio poblogaeth o gludwyr CF yng Nghymru at ddibenion y...